{"id":312221,"date":"2022-03-11T14:21:11","date_gmt":"2022-03-11T14:21:11","guid":{"rendered":"https:\/\/mindfulnessinschools.org\/?page_id=312221"},"modified":"2022-03-11T14:21:11","modified_gmt":"2022-03-11T14:21:11","slug":"iechyd-a-lles-wrth-wraidd-dysgu-yng-nghymru","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/mindfulnessinschools.org\/iechyd-a-lles-wrth-wraidd-dysgu-yng-nghymru\/","title":{"rendered":"Iechyd a lles wrth wraidd dysgu yng Nghymru"},"content":{"rendered":"<h3>Mae nifer yr athrawon y mae MiSP yn eu hyfforddi i addysgu ein cwricwla Paws b a .b yn tyfu ar gyfradd uwch yng Nghymru nag yng ngweddill y DU. O\u2019r 20,855 o ysgolion cynradd y wladwriaeth yn y DU, dim ond 6% (1,261) sydd yng Nghymru, ac o 4,209 o ysgolion uwchradd y wladwriaeth yn y DU, dim ond 5% (208) sydd yng Nghymru. Felly roeddem yn meddwl tybed pam y gallai hynny fod\u2026<\/h3>\n<h3><strong>Cefndir<\/strong><\/h3>\n<p>Yn y DU, mae addysg yn fater datganoledig. Yng Nghymru, mae\u2019r Adran Addysg a Sgiliau (AAaS) yn gyfrifol am addysg, hyfforddiant a gwasanaethau plant, ac yn adrodd i Lywodraeth Cymru. Yn 2014 comisiynodd yr AAaS adolygiad o&#8217;r cwricwlwm ac asesu yng Nghymru er mwyn mynd i&#8217;r afael ag ansawdd amrywiol yr addysgu a&#8217;r safonau mewn addysg a nodwyd gan Estyn (sy&#8217;n cyfateb i Ofsted yng Nghymru). Cyhoeddwyd yr adroddiad \u2018Dyfodol Llwyddiannus\u2019 ym mis Chwefror 2015 a oedd yn argymell ailwampio radical ar gwricwlwm cenedlaethol Cymru.<\/p>\n<h3><strong>Y cwricwlwm newydd ar gyfer 2022<\/strong><\/h3>\n<p>Eleni, mae&#8217;r AAaS wedi cyhoeddi cwricwlwm newydd sydd wedi\u2019i gynllunio i wneud dysgu\u2019n fwy seiliedig ar brofiad ac i gefnogi plant a phobl ifanc i fod yn:<\/p>\n<ul>\n<li>ddysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy&#8217;n barod i ddysgu gydol eu hoes<\/li>\n<li>gyfranwyr mentrus, creadigol, sy&#8217;n barod i chwarae eu rhan yn eu bywyd a\u2019u gwaith<\/li>\n<li>ddinasyddion egwyddorol a gwybodus sy\u2019n barod i fod yn ddinasyddion yng Nghymru a\u2019r byd<\/li>\n<li>unigolion iach a hyderus, sy\u2019n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae\u2019n cynnwys chwe Maes Dysgu a Phrofiad:<\/p>\n<ul>\n<li>Y Celfyddydau mynegiannol.<\/li>\n<li>Iechyd a lles.<\/li>\n<li>Y Dyniaethau (gan gynnwys AG a ddylai barhau&#8217;n orfodol hyd at 16 oed).<\/li>\n<li>Ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu (gan gynnwys y Gymraeg, a ddylai barhau&#8217;n orfodol hyd at 16 oed, ac ieithoedd tramor modern).<\/li>\n<li>Mathemateg a rhifedd.<\/li>\n<li>Gwyddoniaeth a thechnoleg.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Bydd y cwricwlwm yn mynd yn \u2018fyw\u2019 yn 2022, ac mae ysgolion yng Nghymru bellach yn ceisio cynllunio sut y byddant yn ei roi ar waith a\u2019r hyn y mae\u2019n ei olygu iddynt.<\/p>\n<h3><strong>Iechyd a Lles<\/strong><\/h3>\n<p>Am y tro cyntaf, mae iechyd a lles yn cael ei gydnabod yn y cwricwlwm cenedlaethol fel maes dysgu craidd. Nod y maes dysgu hwn yw cefnogi dysgwyr i ddatblygu a chynnal nid yn unig eu hiechyd corfforol a\u2019u lles, ond hefyd eu hiechyd meddwl a\u2019u lles emosiynol, yn ogystal \u00e2 datblygu perthnasoedd cadarnhaol mewn amrywiaeth o gyd-destunau. Er mwyn galluogi hyn, bydd yn meithrin gallu dysgwyr i wneud penderfyniadau gwybodus am eu hiechyd a\u2019u lles a hefyd i ymgysylltu\u2019n feirniadol ag ystod o ddylanwadau cymdeithasol a allai effeithio ar eu gwerthoedd a\u2019u hymddygiad.<strong> Nid yw\u2019n syndod bod ysgolion, addysgwyr a chymunedau\u2019n cydnabod y bydd addysgu meddylgarwch i blant a phobl ifanc yn bodloni\u2019r nodau hyn ac yn cryfhau\u2019r modd y maent yn cyflwyno\u2019r maes dysgu hwn.<\/strong><\/p>\n<h3><strong>MiSP yng Nghymru<\/strong><\/h3>\n<p>Rydym yn hynod ffodus i gael rhwydwaith gwych o hyfforddwyr ac athrawon MiSP (wedi eu hyfforddi i addysgu .b a Paws b) yng Nghymru eisoes, sy\u2019n hyrwyddo meddylgarwch mewn ysgolion.\u00a0<u>Rydym wedi gweithio gyda Chyngor Sir Caerfyrddin<\/u>\u00a0i gynnal cyrsiau hyfforddi gr\u0175p ar gyfer eu hathrawon, ac rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu mentrau fel hyn gyda chynghorau a chonsortia eraill.<\/p>\n<p>O ystyried y newidiadau sydd ar ddod yn y cwricwlwm cenedlaethol yng Nghymru, rydym yn rhagweld y bydd mwy a mwy o ysgolion Cymru yn ymroi i\u2019n dull gweithredu ysgol gyfan ac yn sylweddoli\u2019n gynyddol werth addysgu meddylgarwch i\u2019w staff a\u2019u plant. Mae ein cwricwlwm .b wedi ei gyfieithu i\u2019r Gymraeg a bydd cyfieithiad Paws b ar gael yn yr hydref, gan ddiwallu anghenion ysgolion Cymraeg eu hiaith hefyd. Byddwn yn anelu at gyhoeddi canllawiau i ysgolion yng Nghymru ar sut y gall cwricwla a hyfforddiant MiSP gefnogi sut maent yn gweithredu\u2019r cwricwlwm newydd.<\/p>\n<p>Rydym yn annog athrawon Cymru i ddechrau eu teithiau meddylgarwch eu hunain, trwy .begin, ac i ddod ar hyfforddiant er mwyn addysgu ein cwricwla.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae nifer yr athrawon y mae MiSP yn eu hyfforddi i addysgu ein cwricwla Paws b a .b yn tyfu ar gyfradd uwch yng Nghymru nag yng ngweddill y DU. O\u2019r 20,855 o ysgolion cynradd y wladwriaeth yn y DU, dim ond 6% (1,261) sydd yng Nghymru, ac o 4,209 o ysgolion uwchradd y wladwriaeth [&#8230;]<\/p>\n<p class=\"more-link-excerpt\"><a class=\"read-more\" href=\"https:\/\/mindfulnessinschools.org\/iechyd-a-lles-wrth-wraidd-dysgu-yng-nghymru\/\">Read More&#8230;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"_bbp_topic_count":0,"_bbp_reply_count":0,"_bbp_total_topic_count":0,"_bbp_total_reply_count":0,"_bbp_voice_count":0,"_bbp_anonymous_reply_count":0,"_bbp_topic_count_hidden":0,"_bbp_reply_count_hidden":0,"_bbp_forum_subforum_count":0,"_monsterinsights_skip_tracking":false,"_monsterinsights_sitenote_active":false,"_monsterinsights_sitenote_note":"","_monsterinsights_sitenote_category":0,"_custom_body_class":"","_custom_post_class":"","Layout":"","footnotes":""},"class_list":["entry","author-webmaster","post-312221","page","type-page","status-publish"],"acf":[],"yoast_head":"<title>Iechyd a lles wrth wraidd dysgu yng Nghymru - Mindfulness in Schools Project<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/mindfulnessinschools.org\/iechyd-a-lles-wrth-wraidd-dysgu-yng-nghymru\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Iechyd a lles wrth wraidd dysgu yng Nghymru - Mindfulness in Schools Project\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae nifer yr athrawon y mae MiSP yn eu hyfforddi i addysgu ein cwricwla Paws b a .b yn tyfu ar gyfradd uwch yng Nghymru nag yng ngweddill y DU. O\u2019r 20,855 o ysgolion cynradd y wladwriaeth yn y DU, dim ond 6% (1,261) sydd yng Nghymru, ac o 4,209 o ysgolion uwchradd y wladwriaeth [...]Read More...\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/mindfulnessinschools.org\/iechyd-a-lles-wrth-wraidd-dysgu-yng-nghymru\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Mindfulness in Schools Project\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"3 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/mindfulnessinschools.org\/iechyd-a-lles-wrth-wraidd-dysgu-yng-nghymru\/\",\"url\":\"https:\/\/mindfulnessinschools.org\/iechyd-a-lles-wrth-wraidd-dysgu-yng-nghymru\/\",\"name\":\"Iechyd a lles wrth wraidd dysgu yng Nghymru - Mindfulness in Schools Project\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/mindfulnessinschools.org\/#website\"},\"datePublished\":\"2022-03-11T14:21:11+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/mindfulnessinschools.org\/iechyd-a-lles-wrth-wraidd-dysgu-yng-nghymru\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"en-US\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/mindfulnessinschools.org\/iechyd-a-lles-wrth-wraidd-dysgu-yng-nghymru\/\"]}]},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/mindfulnessinschools.org\/iechyd-a-lles-wrth-wraidd-dysgu-yng-nghymru\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/mindfulnessinschools.org\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Iechyd a lles wrth wraidd dysgu yng Nghymru\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/mindfulnessinschools.org\/#website\",\"url\":\"https:\/\/mindfulnessinschools.org\/\",\"name\":\"Mindfulness in Schools Project\",\"description\":\"For the flourishing of young minds\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/mindfulnessinschools.org\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/mindfulnessinschools.org\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"en-US\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/mindfulnessinschools.org\/#organization\",\"name\":\"Mindfulness in Schools Project (MiSP)\",\"url\":\"https:\/\/mindfulnessinschools.org\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"en-US\",\"@id\":\"https:\/\/mindfulnessinschools.org\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/mindfulnessinschools.org\/wp-content\/uploads\/2019\/03\/logo-seo.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/mindfulnessinschools.org\/wp-content\/uploads\/2019\/03\/logo-seo.png\",\"width\":189,\"height\":110,\"caption\":\"Mindfulness in Schools Project (MiSP)\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/mindfulnessinschools.org\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>","yoast_head_json":{"title":"Iechyd a lles wrth wraidd dysgu yng Nghymru - Mindfulness in Schools Project","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/mindfulnessinschools.org\/iechyd-a-lles-wrth-wraidd-dysgu-yng-nghymru\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Iechyd a lles wrth wraidd dysgu yng Nghymru - Mindfulness in Schools Project","og_description":"Mae nifer yr athrawon y mae MiSP yn eu hyfforddi i addysgu ein cwricwla Paws b a .b yn tyfu ar gyfradd uwch yng Nghymru nag yng ngweddill y DU. O\u2019r 20,855 o ysgolion cynradd y wladwriaeth yn y DU, dim ond 6% (1,261) sydd yng Nghymru, ac o 4,209 o ysgolion uwchradd y wladwriaeth [...]Read More...","og_url":"https:\/\/mindfulnessinschools.org\/iechyd-a-lles-wrth-wraidd-dysgu-yng-nghymru\/","og_site_name":"Mindfulness in Schools Project","twitter_misc":{"Est. reading time":"3 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/mindfulnessinschools.org\/iechyd-a-lles-wrth-wraidd-dysgu-yng-nghymru\/","url":"https:\/\/mindfulnessinschools.org\/iechyd-a-lles-wrth-wraidd-dysgu-yng-nghymru\/","name":"Iechyd a lles wrth wraidd dysgu yng Nghymru - Mindfulness in Schools Project","isPartOf":{"@id":"https:\/\/mindfulnessinschools.org\/#website"},"datePublished":"2022-03-11T14:21:11+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/mindfulnessinschools.org\/iechyd-a-lles-wrth-wraidd-dysgu-yng-nghymru\/#breadcrumb"},"inLanguage":"en-US","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/mindfulnessinschools.org\/iechyd-a-lles-wrth-wraidd-dysgu-yng-nghymru\/"]}]},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/mindfulnessinschools.org\/iechyd-a-lles-wrth-wraidd-dysgu-yng-nghymru\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/mindfulnessinschools.org\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Iechyd a lles wrth wraidd dysgu yng Nghymru"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/mindfulnessinschools.org\/#website","url":"https:\/\/mindfulnessinschools.org\/","name":"Mindfulness in Schools Project","description":"For the flourishing of young minds","publisher":{"@id":"https:\/\/mindfulnessinschools.org\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/mindfulnessinschools.org\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"en-US"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/mindfulnessinschools.org\/#organization","name":"Mindfulness in Schools Project (MiSP)","url":"https:\/\/mindfulnessinschools.org\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"en-US","@id":"https:\/\/mindfulnessinschools.org\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/mindfulnessinschools.org\/wp-content\/uploads\/2019\/03\/logo-seo.png","contentUrl":"https:\/\/mindfulnessinschools.org\/wp-content\/uploads\/2019\/03\/logo-seo.png","width":189,"height":110,"caption":"Mindfulness in Schools Project (MiSP)"},"image":{"@id":"https:\/\/mindfulnessinschools.org\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/mindfulnessinschools.org\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/312221","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/mindfulnessinschools.org\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/mindfulnessinschools.org\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/mindfulnessinschools.org\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/mindfulnessinschools.org\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=312221"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/mindfulnessinschools.org\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/312221\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":312292,"href":"https:\/\/mindfulnessinschools.org\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/312221\/revisions\/312292"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/mindfulnessinschools.org\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=312221"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}